10.2.08

Brogau

Wyt ti'n meddwl am brogau erioed? Dw i'n meddwyl mae nhw'n yn gret!
Ro'n i'n edrych amdanyn nhw yn y pwll pysgota heddiw. Bodau dynol cael sat nav, radar, compasses a llawer o arwyddion arall ond colli o hyd eu ffordd.
Pob flwyddyn y brogau, heb un sign-post neu calendr, gyrraedd a'r diwedd mis Ionawr. A'r 14th mis Chwefror bydden ni weld frog spawn o gympas a dros y pwll. Bendigedig neu Beth?

Dim ond wedi meddwyl!!

15 comments:

Nic said...

Mae brogaod yn neis iawn, ond mae'n well 'da fi y fadfall dŵr.

Heddi, aethon ni i Ganolfan Wlyptir Genedlaethol, ar bwys Llanelli. Welon ni ddim brogaod, na madfall chwaith, ond lot fawr o wyddau, hwyaid, elerch, a fflamingos!

Nic said...

Y fadfall ddŵr, hynny yw!

Pa fath o diwtor ydw i? ;-)

Nwdls said...

Haia Dot, Nic ddwedodd am dy flog di.

Mae brogaod yn fendigedig. Llithrig a llyfn!

Dyma lun o ddau froga yng ngardd rhieni fy ngwraig (wel, llyffant. i fi yn y gogledd, mae broga yn golygu "toad").

Linda said...

Helo Dot ...ydw, dwi'n darllen blog Nic hefyd !
Croeso i fyd y blogio.

Dot said...

Helo Linda
Diolch am dy neges.
Dw i'n nerfus iawn ond bydda i parhau.
Dot

Linda said...

Da clywed dy fod am barhau Dot.'Rwyf newydd ychwanegu linc i dy flog di er mwyn i mi gael galw i mewn o dro i dro ....

Dot said...

nic Dafis
Ble mae'r Ganolfan Wlyptir Genedlaethol?
Dot

Dot said...

nwdls
Diolch am y llunau froga.
Heddiw, yn y bore, ffeindiodd John broga wedi marw. Y peth tlawd ar goll un coes hefyd.

Nawr mae e'n ar y compost heap felly fydd e'n helpu fi gyda ardd.

Dot

Nic said...

Ble mae'r Ganolfan Wlyptir Genedlaethol?

Ar bwys Llanelli.

asuka said...

ydyn, maen nhw'n wych. wyt ti 'di bod yn gwylio'r rhaglen 'da david attenborough? diddorol iawn, ond trist clywed am y ffwngws 'na sy'n ymledu dros y byd ac yn effeithio ar frogaod.

Dot said...

asuka
Dw i'n meddwl gwelais i pob rhaglanau gan David Attenborough.
Mae nhw'n dda iawn.
Pwy fydd cymryd ei lle eh?
(sori, dw i'n dysgu Cymraeg. Gobeithio gallet ti'n deall)

Mae'r brogaod wedi adael ein pwll echdoe ond ro'n i'n drist i weld ddim frog spawn. Beth wyt ti'n meddwl wedi digwydd?

asuka said...

cytuno'n llwyr bod david attenborough yn wych o gyflwynydd. alla' i'm gweud 'mod i 'di gweld pob un gyfres gan y boi, ond wedi joio sawl un yn fawr iawn.
dim "spawn" eto. o na - sôn am siomedig! gobeithio nad oes rhywbeth o'i le gyda nhw. falle bod nhw'n swil ac so'n nhw'n leicio cael blogio arnyn nhw!

Gwybedyn said...

Os am raglen natur wych (dim brogaod eto, am wn i, ond llyffantod ac yslywennod yn y rhaglen gyntaf), ewch i wylio 'Natur Cymru' gyda Iolo Williams. Ffilmio hyfryd, a geirfa byd natur cynhenid Cymraeg (cewch chi - fel fi - ddysgu beth yw "spawn" yn Gymraeg (a llawer o bethau eraill)!)

Dyma'r cyfeiriad (cliciwch wedyn ar y ddolen ar y chwith):

http://www.s4c.co.uk/naturcymru/

Dot said...

diolch yn fawr iawn Szczeb
Dw i'n cytuno mae Iolo yn gret.

Dot said...

diolch yn fawr iawn Szczeb
Dw i'n cytuno mae Iolo yn gret.